Casgliadau Celf Arlein
Syr William Goscombe John (1860-1952) [Sir William Goscombe John (1860-1952)]
ROILOS, George (1867 - 1928)
(Mae Amgueddfa Cymru'n ymddiheuro nad oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Dyddiad: 1902
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 76.2 x 57.2 cm
Derbyniwyd: 1940; Rhodd; Syr William Goscombe John
Rhif Derbynoli: NMW A 588
Arlunydd Groegaidd oedd Roilos a oedd yn gweithio yn Lloegr yn ystod hanner cyntaf y ganrif hon. Mae'r portread yn dangos y cerflunydd yn ei stiwdio yn gweithio ar Gofeb Ryfel y Coldstream Guards yn Ne Affrica ar gyfer Eglwys Gadeririol Sant Paul. Disgrifiwyd hwn gan ferch Goscome John ym 1953 fel 'y tebygrwydd mwyaf teimladwy' o'i thad, ar wahan i'r portread gan Syr Luke Fildes.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw