Casgliadau Celf Arlein
Y Gusan
RODIN, Auguste (1840 - 1917)

Cyfrwng: efydd
Maint: 182.9 cm
Derbyniwyd: 1940; Rhodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2499
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Daw Y Gusan o grw^p a ddyfeisiwyd ar gyfer Pyrth Ufern gan Rodin, sy'n cynrychioli'r cariadon trist Paolo a Francesca yn Inferno Dante. Ym 1887 comisiynodd gwladwriaeth Ffrainc fersiwn farmor anferth, a arddangoswyd am y tro cyntaf ym 1898. Cafodd y gyfres efydd y mae'r gwaith hwn yn perthyn iddi ei chastio gan Alexis Rudier, a ddaeth yn fwriwr haearn i Rodin ym 1902. Prynwyd y gwaith gan Gwendoline Davies ym 1912 a'i arddangos yn yr Arddangosfa Fenthyg a drefnwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1913.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw