Casgliadau Celf Arlein
Y Ddaear a'r Lleuad
RODIN, Auguste (1840 - 1917)
Cyfrwng: marmor
Maint: 120.0 cm
Derbyniwyd: 1940; Rhodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2509
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
marmor
Daw'r grw^p hwn yn wreiddiol o Byrth Uffern gan Rodin. Ynghyd â fersiwn farmor gynharach, a archebwyd ym 1898 a'I chyflwyno ym 1900, daw o blastr gwreiddiol sydd yn y Musèe Rodin ym Mharis. Mae graddfa fechan y ffigyrau o'u cymharu â'r bloc garw yn awgrymu rhyddhau'r ysbryd o'r defnydd crai. Mae'r teitl yn awgrymu gwrthgyferbyniad rhwng y bydol a'r nefol. Prynwyd y gwaith hwn gan Gwendoline Davies ym 1914.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd








Gadael sylw