Casgliadau Celf Arlein
Y Cymylau
RODIN, Auguste (1840 - 1917)

Cyfrwng: marmor
Maint: 75.5 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2510
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Roedd i'r grw^p marmor y teitl hwn (Les Nuages) ym 1902 pan oedd yn dal yn stiwdio Rodin ym Mharis ac wedi ei gynnwys yn erthygl Quentin New York by Auguste Rodin. Meddai: 'Cynrychiolir y Cymylau gan ddau ffigwr benywaidd ochr yn ochr, y naill yn penlinio a'r llall yn hanner eistedd...Mae effaith yr holl beth yn hyfryd iawn, yn rhoi syniad o gymylau'n newid ac yn symud.' Prynwyd y gwaith hwn gan Gwendoline Davies ym 1913.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw