Casgliadau Celf Arlein
Pen Victor Hugo (1802-1885)
RODIN, Auguste (1840 - 1917)

Cyfrwng: efydd
Maint: 51.4 cm
Derbyniwyd: 1934; Rhodd; Syr William Goscombe John
Rhif Derbynoli: NMW A 304
Nid oedd Victor Hugo yn fodlon eistedd yn llonydd ar gyfer portread ohono, felly roedd rhaid i Rodin weithio o frasluniau cyflym. Yn ôl yr artist, 'meddyliais i mi weld Iau Ffrengig; ond ar ôl dod i’w adnabod yn well, roedd yn debycach i Hercules'. Mae’r penddelw yn cyfleu statws urddasol yr awdur o fri ac arwr cenedlaethol y Ffrancwyr, a ysgrifennodd glasuron fel Les Miserables a Notre-Dame de Paris. Disgrifiodd Syr Goscombe John ef fel 'tua'r gorau ganddo o'r math hwnnw ac yn enwog ar hyd a lled y byd. Mae'n waith arbennig o onest'.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw