Casgliadau Celf Arlein
Gawen Goodman o Ruthun (1526-1604) [Gawen Goodman of Ruthin (1526-1604)]
YSGOL BRYDEINIG, 16eg Ganrif
[delwedd: Gawen Goodman o Ruthun (1562-1604)]
Dyddiad: 1582
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 49.5 x 42.0 cm
Derbyniwyd: 1930; Cymynrodd; Yr Anrh. Mrs Lawrence Brodrick
Rhif Derbynoli: NMW A 3453
Dyma ddarlun o Gawen Goodman o Ruthun yn bum deg chwech oed, yn gwisgo modrwy goffa. Mae’r benglog yn ein hatgoffa o’n marwoldeb. Ymysg yr arysgrifiadau ceir y myfyrdodau Cristnogol Deum timere (ofnwch Dduw) a Iesus est amor meus (Iesu yw fy nghariad). Fe’i portreadir fel gŵr duwiol a pharchus, ond ysgrifennodd Thomas Prys y canlynol amdano, 'Os yw’n mynd i’r afael â gwinoedd rhyw dref, ni fydd yn dychwelyd adref heb faglu: wel, mi wn y gall yfed ei gyfran, os oes gwin ar gael, ni fydd yn fodlon ar lymru. Mae Gawen yn ddyn hael a duwio l-ar ôl cael gwydraid neu ddau..'
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 10
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft
0 sylw
Gadael sylw