Casgliadau Celf Arlein
Edward Goodman o Ruthun (1476-1560) [Edward Goodman of Ruthin (1476-1560)]
YSGOL BRYDEINIG, 16eg Ganrif
[delwedd: Edward Goodman o Ruthun (1476-1560)]
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 56.4 x 44.8 cm
Derbyniwyd: 1930; Cymynrodd; Yr Anrh. Mrs Lawrence Brodrick
Rhif Derbynoli: NMW A 3450
Mae Edward Goodman yn gwisgo cap sgwâr a mantell sgarlad ag ymyl ffwr, dillad addas i fasnachwr llewyrchus. Mae ei bortread yn llawn symbolau sy’n cyfeirio at gredoau Protestannaidd newydd y cyfnod. Yn ei law mae sgrôl â’r arysgrif Offeren pawb yn i gallon. Mae hyn yn cyfeirio at gred craidd y Protestaniaid y dylai pob Cristion gael addoli Duw yn uniongyrchol, yn hytrach na thrwy offeiriad. Mae dau arwyddair hefyd yn ymddangos ar yr ochr dde ar y top. 'HEB DDVW DDIM/DVW A DIGON' ('Heb Dduw, heb ddim, mae Duw yn ddigon'). Dilynir hyn gyda 'BE HVMBL AND MEEKE/SOBRE IVSTE PIE' ('Bydd wylaidd a gostyngedig/Yn sobr, teg a duwiol').
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 10
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft
0 sylw
Gadael sylw