Casgliadau Celf Arlein
Cylch Natur [Cycle of Nature]
RICHARDS, Ceri Giraldus (1903 - 1971)

Dyddiad: 1944
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 102.2 x 152.7 cm
Derbyniwyd: 1959; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Knapping
Rhif Derbynoli: NMW A 219
Mae'r llifeiriant hwn o ffurfiau dynol, anifeilaidd a llysieuol yn ein hatgoffa o dirluniau Swreal gan Max Ernst. Mae Richards hefyd yn archwilio delweddau gweledol sy'n dod â cherdd Dylan Thomas 'The force that through the green fuse drives the flower' i'r cof. Ym 1945 cafodd ei gomisiynu i ddarlunio'r gerdd yn Poetry London, a gwnaeth dri lithograff gan ymgorffori'r testun cyfan.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw