Casgliadau Celf Arlein
Y Ferch o Baris [La Parisienne]
RENOIR, Pierre-Auguste (1841 - 1919)

Dyddiad: 1874
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 163.2 x 108.3 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2495
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Ym 1874 cynhwyswyd y darlun hwn yn yr Arddangosfa Argraffiadol gyntaf. Madame Henriette Henriot, a fu'n actio yn yr Odéon yn 1863-68, yw'r gwrthrych. Byddai Renoir yn aml yn ei defnyddio fel model. Drwy roi i'r darlun y teitl Y Ferch o Baris, mae'n awgrymu ei bod yn cynrychioli math o berson yn hytrach na pherson penodol. Meddai un o adolygwyr arddangosfa 1874: 'Prin y gellir gweld blaen ei hesgid uchel, sy'n ymwthio allan fel llygoden fach ddu. Mae ei het yn gwyro dros un glust ac mae'n fentrus o bowld...Ffug yw'r wân, ac mae'r wyneb yn gymysgedd o hen a phlentynnaidd. Ond mae yna rywbeth yn naîf ynddi. Cawn yr argraff fod y ferch yma'n ymdrechu'n galed i edrych yn barchus. Mae'r wisg, sydd wedi ei pheintio'n fendigedig, mewn glas o liw nefolaidd.' Arferai'r gwaith fod yng nghasgliad enwog Henri Rouart, a phrynwyd ef gan Gwendoline Davies ym 1913.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 16
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft


Gadael sylw