Casgliadau Celf Arlein
Darganfod Moses
POUSSIN, Nicolas (1594 - 1665)

Dyddiad: 1651
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 117.0 x 178.2 cm
Derbyniwyd: 1988; Prynwyd; ar y cyd â'r Oriel Genedlaethol, Llundain, gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol / Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd
Rhif Derbynoli: NMW A 1
Pan orchmynnoedd Pharo ladd pob bachgen a aned i'r Israeliaid, cafodd Moses ei guddio gan ei fam mewn basged o frwyn ar Afon Nil. Yno cafodd ei ddarganfod a'i fabwysiadu gan ferch Pharo. Yn ôl traddodiad Cristnogaeth ystyrid mai Moses oedd rhagflaenydd Crist, a byddid yn cymharu ei ddihangfa â hanes Iesu yn ffoi i'r Aifft. Mae'r plas yn y cefndir wedi ei seilio ar un mewn mosaic Rhufeinig ym Mhalesteina a oedd wedi ei gloddio ychydig flynyddoedd ynghynt. Ar y dde mae personoliad o Afon Nil. Mynegir hapusrwydd y digwyddiad drwy liwiau llachar y llenni llawn a mynegiant y ffigyrau. Cafodd y llun ei gomisiynu gan Reynon, masnachwr sidan o Lyon, ac wedyn daeth yn eiddo i Clive o India (1725-74). Cafodd ei etifeddu wedyn gan Ieirll Powys.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 2
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw