Casgliadau Celf Arlein
Rhaeadrau Terni [The Falls of Terni]
PATCH, Thomas (1725 - 1782)

Dyddiad: 1767
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 120.5 x 87.0 cm
Derbyniwyd: 1969; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd
Rhif Derbynoli: NMW A 106
Ar ôl bod yn gweithio yn Rhufain, lle bu'n astudio gyda Joseph Vernet, ymsefydlodd Patch yn Fflorens ym 1757. Arbenigai ar grwpiau digriflun o ymwelwyr, fel Syr Watkin Williams-Wynn a'i gyfeillion. Byddai Patch hefyd yn peintio golygfeydd o fannau a oedd yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr. Cafodd y rhaeadrau trawiadol yn Terni, ger Perugia, sy'n 200 metr o uchder eu torri ym 272 CC gan Curius Dentatus, concwerwr y Sabiniaid.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 4
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw