Casgliadau Celf Arlein
Y Telynor Dall, John Parry (bu f.1782) [The Blind Harpist, John Parry (d.1782)]
PARRY, William (1742 - 1791)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 84.8 x 73.9 cm
Derbyniwyd: 1996; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 3979
Casgliad: Casgliad Syr Watkin Williams-Wynn
‘And with a master’s hand and prophet’s fire
Struck the deep sorrows of his lyre’
Thomas Gray, Y Bardd, 1757
Yma mae John Parry wedi ymgolli yn sŵn ei gerddoriaeth ei hun. Cafodd ei eni’n ddall a daeth i fod yn gerddor enwog ac yn delynor i Siôr III a Syr Watkin Williams Wynn. Roedd yn aelod cynnar o Gymdeithas y Cymmrodorion a daeth i fod yn ffigwr amlwg yn yr Adfywiad Celtaidd. Honai fod ei gerddoriaeth o darddiad derwyddol, ac yn ddiweddarach mabwsiadwyd ei delyn deires fel offeryn cenedlathol Cymru.
Ysbrydolodd ei ‘gytgordiau dall hudolus’ a’i ‘alawon i roi lwmp yn eich gwddf’ y bardd Seisnig Thomas Gray i gwblhau ei gerdd The Bard ym 1757. Daeth y gerdd hon yn eiconig, ac yn destun poblogaidd ymysg artistiaid fel Thomas Jones.
Peintiwyd y portread sensitif hwn o ‘Parry Dall’ gan ei fab, William. Peintiodd William fersiwn arall a fu’n hongian yn Wynnstay yn wreiddiol gyda phortread Anton Mengs o Richard Wilson.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw