Casgliadau Celf Arlein
Pont Aberglaslyn
NICHOLSON, Francis (1753 - 1844)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 55.6 x 76.0 cm
Derbyniwyd: 1919; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 505
Meddai'r Parchedig J Evans yn frwd wrth ymweld yn y 1790au â'r bont hon a gysylltai Sir Gaernarfon a Meirionydd - 'Yr olygfa oedd yr harddaf y gallai neb ei dychmygu; mae'r llygad yn cael ei swyno a'r meddwl ei foddi mewn emosiynau o ryfeddod tawel...Uwchlaw mae'r clogwyni serth yn esgyn yn hollol afreolaidd fil o droedfeddi...popeth yn cyfrannu i greu golygfa aruchel sy'n tarddu o gyfuniad o ddwyster ac urddas.' Mae Nicholson, peintwr o Swydd Efrog, yn fwy adnabyddus fel arlunydd dyfrlliw. Cafodd y gwaith hwn ei engrafu ym 1809.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw