Casgliadau Celf Arlein
Andrea Calvi (g.1590) [Andrea Calvi (b.1590)]
ALBANI, Francesco (1578 - 1660)

Dyddiad: 1636
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 114.0 x 93.0 cm
Derbyniwyd: 1978; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 13
Yn ôl yr arysgrif ar y peintiad roedd Andrea Calvi’n ddeugain oed pan eisteddodd ar gyfer y portread. Mae’n gwisgo cyff a choler les ffasiynol, ac yn dal llythyr wedi’i gyfeirio ato ef ei hun. Ni wyddom ddim amdano ond mai ef oedd tad Andrea Calvi (1627-79), a oedd yn gyfreithiwr ac yn offeiriad o fri. Mae portreadau Albani, arlunydd oedd yn gweithio ym Mologna, yn brin iawn. Mae’n fwyaf adnabyddus am greu peintiadau o destunau chwedlonol, tirluniau a ffresgos. Albani a bu'n astudio gyda Carracci yn Rhufain cyn dychwelyd i ddinas ei eni.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 2
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw