Casgliadau Celf Arlein
Menyw a Phlentyn mewn Dôl yn Bougival
MORISOT, Berthe (1841 - 1895)

Dyddiad: 1882
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 60.1 x 73.3 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2491
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Daeth Morisot yn drwm o dan ddylanwad Manet, a phriododd ei frawd Eugene ym 1874. Yn y flwyddyn honno dangosodd ei gwaith yn yr Arddangosfa Argraffiadol gyntaf. Ym 1881 dywedodd y beirniad Gustave Geffroy: 'Does neb yn cynrychioli Argraffiadaeth gyda mwy o ddawn na mwy o awdurdod na Morisot'. Peintiwyd yr olygfa hon en plein air yn Bougival, i'r gorllewin o Baris, lle bu'r arlunydd yn aros yn ystod yr haf ym 1881 a 1882. Mae'n debyg mai ei merch Julie, a aned ym 1878, a'i morwyn Paisie sydd i'w gweld yn y llun.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 16
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw