Casgliadau Celf Arlein
Motiff Unionsyth Rhif 8 [Upright Motif No.8]
MOORE, Henry (1898 - 1986)

Dyddiad: 1956
Cyfrwng: efydd
Maint: 227.0 cm
Derbyniwyd: 1962; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2415
Erbyn 1950 câi Henry Moore ei gydnabod yn gyffredinol fel arlunydd avant garde pennaf Prydain. Ym 1955-56 bu'n gweithio ar gyfres o gerfluniau talsyth efydd sy'n atgoffa rhywun am bolion totem a cherfluniau Brancusi. Byddai tri o'r Motiffau Talsyth hyn weithiau'n cael eu dangos gyda'i gilydd i edrych fel grŵp Croeshoelio. Yma, mae'r ffurfiau dynol crwn wedi eu gosod yn erbyn y ffurfiau ffliwtiog fertigol yn awgrymu ffigwr wedi ei rwymo wrth golofn Glasurol, megis Sant Sebastian neu Grist yn cael ei Fflangellu.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 12
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw