Casgliadau Celf Arlein

Lilïau Dŵr

MONET, Claude (1840 - 1926)

Lilïau Dw^r

Dyddiad: 1906

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 81.6 x 92.7 cm

Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies

Rhif Derbynoli: NMW A 2487

Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies

O'r bont Japaneaidd yn ei ardd ddŵr gallai Monet gael golygfan uchel ar y dŵr a phlaen darlun cyfatebol uwch, heb i lan y dŵr darfu arno. Mae wyneb llyn sy'n adlewyrchu a phlanhigion yn nofio ar yr wyneb fel pe bai'n creu gofod diderfyn. Ym 1908 meddai: 'Mae'r tirluniau hyn o ddw^r ac adlewyrchiad wedi llenwi fy mryd...ac eto rwyf am allu cyfleu yr hyn a welaf.' Mae hwn yn un o dri darlun gan Monet o'r lili ddŵr (nymphas) a brynwyd gan Gwendoline Davies ym Mharis ym 1913.

Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:

Map

Oriel 16

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4

i Grisiau i fyny

i Grisiau i lawr

i Lifft

Gadael sylw


Pori artistiaid

Pori artistiaid yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall