Casgliadau Celf Arlein
Eglwys Gadeiriol Rouen: Machlud Haul
MONET, Claude (1840 - 1926)

Dyddiad: 1892-4
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 100.0 x 65.0 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2482
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Gan weithio o ffenestr siop gwneuthurwr hetiau ac edrych allan ar du blaen Eglwys Gadeiriol Rouen, dechreuodd Monet beintio cyfres o fwy na deg ar hugain a olygfeydd o'r eglwys ym mis Chwefror 1892. Dychwelodd ym mis Chwefror 1893 gan gwblhau'r gwaith yn Giverny ym 1893-94. Mae'r darlun hwn o'r eglwys gadeiriol yng ngolau'r machlud yn un o ugain o ddarluniau Cathédrales a arddangoswyd yn llwyddiannus iawn ym Mharis ym 1895. Fel cofnod o'r ffordd y mae golau'n trawsnewid golwg gwrthrych, mae'r gyfres yn dod yn agos at derfynau Agraffiadaeth 'wyddonol'. Roedd y 1890au yn ddegawd o adfywiad cenedlaethol yn Ffrainc, ac mae dewis Monet o gofeb Ffrengig fawr o'r Oesoedd Canol yn y ddinas lle cafodd Jean d'Arc ei merthyru yn awgrymu diben bwriadol wladgarol. Mae ffrém anarferol y darlun hwn, gyda'i bileri hanesiol a'r arysgrif Cl. Monet mewn llythrennau gothig, yn awgrymu bod perchennog blaenorol wedi edrych arno fel symbol o gendlaetholdeb yn ogystal â chofnod gwrthrychol o effeithiau golau. Prynodd Gwendoline Davies y gwaith ym Mharis yn mis Rhagfyr 1917.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 16
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft









Gadael sylw