Casgliadau Celf Arlein
Y Sêr Gwib
MILLET, Jean-François (1814 - 1875)

Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 18.7 x 34.5 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2476
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae’r pwnc dychmygol hwn yn anghyffredin iawn ymhlith gweithiau Millet. Mae’n cyfeirio at ran o gerdd Inferno Dante, sy’n disgrifio gwynt nerthol yn chwyrlio eneidiau’r rhai chwantus drwy awyr fawr uffern. Roedd y gerdd epig hon yn ysbrydoliaeth gyson i artistiaid, fel y dengys Millet. Enghraifft ddiweddarach o’r traddodiad hwn yw cerflun Y Gusan gan Auguste Rodin.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 11
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft








Gadael sylw