Casgliadau Celf Arlein
Y Teulu Gwerinol
MILLET, Jean-François (1814 - 1875)

Dyddiad: 1871-2
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 110.4 x 81.0 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2473
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Dechreuwyd ar y gwaith hwn ym 1871-72 ond ni chafodd ei orffen. Mae'r olygfa deimladwy yn dangos teulu gwerinol Normanaidd ar glos eu fferm. Mae'n ymgorffori elfen gyntefig a all fod yn deillio o gerflunwaith yr Aifft a darluniau Quattrocento a welodd Millet yn y Louvre. Meddai'r arlunydd Prydeinig Sickert: 'Mae'r dyn tawel a'i gymar difrifol yn wynebu'r gynulleidfa gyda dwysedd a chymesuredd dwy golofn, a'r plentyn, fel Samson bychan, yn dangos cryfder pileri ei dy^'. Prynodd Margaret Davies y gwaith hwn ym 1911.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 11
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw