Casgliadau Celf Arlein
Y Chwa o Wynt
MILLET, Jean-François (1814 - 1875)

Dyddiad: 1871-3
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 90.5 x 117.5 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2475
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Dyma eiliad ddramatig pan fo’r storm ar ei hanterth, wrth i’r gwynt anrheithio’r tir a rhwygo’r dderwen o’i gwreiddiau. Islaw, mae ffigwr y gwerinwr bach yn pwysleisio anferthedd y digwyddiad, sy’n dwyn i gof syniadau’r rhamantwyr am rym natur yn trechu dyn. Efallai ei fod hefyd yn symbol o’r byd modern yn dinistrio’r bywyd gwledig traddodiadol, fel y credai Millet.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 11
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw