Casgliadau Celf Arlein
Golygfa o Meaux
MICHEL, Georges (1763 - 1843)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 57.2 x 79.7 cm
Derbyniwyd: 1982; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2472
Saif eglwys gadeiriol ysblennydd Meaux yn dalog yn erbyn yr awyr fygythiol. Michel oedd un o beintwyr tirluniau Ffrengig cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg i ymwrthod â thraddodiadau neo-glasurol celf academaidd, a chanolbwyntio ar greu awyrgylch naturiol. Cafodd ei ysbrydoli gan dirluniau Iseldiraidd yr ail ganrif ar bymtheg yn hytrach na’r ffynonellau Eidalaidd, a daeth yn rhagflaenydd pwysig i Ysgol Barbizon ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 11
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw