Casgliadau Celf Arlein
Diniweidiaid a Thwyllwyr Cardiau (Gêm o Piquet)
MEISSONIER, Jean Louis Ernest (1815 - 1891)

Dyddiad: 1861
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 24.2 x 32.2 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2471
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae dau lanc ‘diniwed’ ar y dde yn paratoi ar gyfer eu cam nesaf mewn gêm o Piquet. Ymddengys nad ydynt fawr callach am gyfrwystrau’r gwrthwynebwyr, ond mae rhyw densiwn yn yr ystafell gan fod llaw’r dyn y tu cefn iddynt ar ei gleddyf. Roedd llawer yn edmygu Meissonier am goethder a manylder arbennig ei luniau o natur hanesyddol, a ddefnyddiai baentiadau Iseldiraidd yr ail ganrif ar bymtheg fel ysbrydoliaeth.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 11
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw