Casgliadau Celf Arlein
Y Forwyn a'r Plentyn gyda Phomgranad
BOTTICELLI, Alessandro (1447 - 1510), dilynydd

Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 64.8 x 41.9 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 242
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Botticelli oedd un o brif beintwyr Fflorens ar ddiwedd y bymthegfed ganrif a châi ei noddi gan y teulu Medici a'r Pab. Mae'r llun hwn wedi ei seilio ar y ffigyrau canolog yn y darn allor San Barnaba a beintiodd tua 1485 ac sydd yn Oriel Uffizi yn Fflorens. Mae'r pomgranad yn llaw'r plentyn Iesu yn arwydd Cristnogol o'r Atgyfodiad.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw