Casgliadau Celf Arlein
Adelina Patti (1843-1919)
MARKO, Karoly (the younger) (1822 - 1891)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 95.2 x 76.9 cm
Derbyniwyd: 1961; Rhodd; M.E. Hatherill
Rhif Derbynoli: NMW A 515
Ganed Adelina Patti (1843-1919) ym Madrid a'i magu yn Efrog Newydd. Perfformiodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn Lucia di Lammermoor gan Donizetti ym 1859. Daeth yn fuan yn un o gantorion opera rhyngwladol enwocaf ei dydd. Ym 1878 prynodd Graig y nos, castell neo-Gothig i'r gogledd o Abertawe ac ychwanegodd dy^ opera at y lle. Mae'r portread hwn o tua 1873-75 yn dangos Madame Patti mewn gwisg sglefrio. Mab i beintiwr tirluniau o Hwngari oedd Karoly Marko. Yn 1838 aeth gyda'i dad i'r Eidal ac ym 1884 symudodd i Rwsia.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 5
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw