Casgliadau Celf Arlein
Y Forwyn yn addoli'r Plentyn gyda'r Sant Ioan Ifanc
BOTTICELLI, Alessandro (1447 - 1510), gweithdy

Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 86.4 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 241
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae Mair yn penlinio wrth addoli Crist yn blentyn ifanc. Ar y dde iddi, mae Ioan Fedyddiwr yn dal ffon a rhuban. Dangosir Ioan Fedyddiwr yn y llun fel rhagflaenydd Crist yn cysylltu'r Hen Destament a'r Newydd ac fel Nawddsant Fflorens. Daw siâp crwn y darlun – tondo – o siâp y platiau peintiedig a gyflwynwyd i fam ar ôl geni yn ôl y traddodiad. Byddai'r rheiny'n aml yn cael eu haddurno â lluniau o'r Forwyn. Botticelli oedd un o arlunwyr mwyaf poblogaidd y bymthegfed ganrif yn Rhufain. Mae yna lawer fersiwn o'r cyfansoddiad hwn ar gael, gan gynnwys un yn yr Oriel Genedlaethol. Mae’n debyg mai arlunydd cynorthwyol a beintiodd y gwaith, er ei fod o safon uchel iawn.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 2
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw