Casgliadau Celf Arlein
Effaith Eira yn Petit-Montrouge
MANET, Edouard (1832 - 1883)

Dyddiad: 1870
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 61.6 x 50.4 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2468
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Golygfa o eglwys Saint-Pierre yn Petit-Montrouge, un o faestrefi Paris. Arni mae'r arysgrif: â mon ami H. Charlet 28 Xbre 1870. Hwyrach mai cydymaith oedd Charlet, oherwydd roedd Manet yn filwr yng ngwarchae Paris yn ystod y gaeaf 1870-71. Ysgrifennodd at ei wraig: 'Mae fy sach milwr yn...dal popeth sydd eisiau ar gyfer peintio. Byddaf yn fuan yn dechrau ychydig frasluniau o fywyd llonydd. Bydd y rhain yn gofroddion o werth ryw ddiwrnod.' Mae'r olygfa hon yn yr eira yn un o rai cynharaf Manet yn yr awyr agored. Prynodd Gwendoline Davies y darlun ym Mharis ym mis Hydref 1912.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 11
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft


Gadael sylw