Casgliadau Celf Arlein
Y Dyn Dweud Ffortiwn
MANCINI, Antonio (1852 - 1930)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 60.2 x 100.2 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 1950
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Cafodd Mancini ei hyfforddi yn Napoli, gan ymweld â Pharis ym 1875-76 a 1877-78. Ym 1883 ymsefydlodd yn Rhufain. Gyda chymorth Sargent, gwnaeth gryn enw iddo'i hun ym Mhrydain. Roedd dylanwad hen feistri'r ail ganrif ar bymtheg ar ei beintiadau o ffigyrau. Yn eu plith mae effeithiau golau disglair ac maent yn cynnwys impasto trwchus, gyda ffoil metal, cortyn a defnyddiau eraill yn cyfoethogi'r gwead o bryd i'w gilydd. Mae'r darn genre hwn yn darlunio hen ŵr gyda phibell wrth fwrdd, lle mae epa, parot ac anifeiliaid eraill yn eistedd. Prynwyd y gwaith gan Margaret Davies ym 1914.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw