Casgliadau Celf Arlein
Y Masg Gwag
MAGRITTE, Rene (1898 - 1967)

Dyddiad: 1928
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 81.2 x 116.2 cm
Derbyniwyd: 1973; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2051
Yn ei draethawd 'Words and Images', a gyhoeddwyd ym 1929, dywedodd y Swrealydd Magritte o wlad Belg fod pob delwedd 'yn awgrymu bod yna ragor y tu ôl iddi.' O edrych arnynt drwy ffrâm ar ffurf afreolaidd, y delweddau sydd yma yw awyr, llen o blwm gyda chlychau sled o'i gwmpas, tu blaen ty^, dalen o ffurfiau papur, coedwig a thân. Mae'r teitl yn creu ofn yr anweladwy, sy'n frith yng ngwaith yr arlunydd ac yn adlewyrchu diddordeb eithriadol y Swrealwyr yn syniad Freud am yr isymwybod.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 12
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw