Casgliadau Celf Arlein
Y Parchedig E. Turberville Williams [Reverend E. Turberville Williams]
LYDDON, A. J.
(Mae Amgueddfa Cymru'n ymddiheuro nad oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Cyfrwng: olew ar felinfwrdd
Maint: 39.4 x 33.2 cm
Derbyniwyd: 1931; Rhodd; Mr a Mrs E.W.T. Brewer Williams
Rhif Derbynoli: NMW A 4962
Ficer Eglwys Caldicot, Sir Fynwy oedd Edmund Turberville Williams. Ar ei apwyntiad, doedd dim ysgol yn y pentref ac addysg sylfaenol yn unig a gai’r plant lleol gyda gweddw o’r ardal yn dysgu iddynt ddarllen y Beibl. Ym 1847 fodd bynnag agorodd Ysgol Eglwys y Santes Fair, yn bennaf o ganlyniad i waith Williams a gyfrannodd £60 o’i boced ei hun at sefydlu’r ysgol.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw