Casgliadau Celf Arlein
Gwanwyn
LENZ, Maximilian (1860 - 1948)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 174.2 x 365.7 cm
Derbyniwyd: 1978; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 589
Bu Lenz yn astudio gyda Gustav Klimt yn y Kunstgewerbeschule yn Fienna, ac ym 1897 yr oedd yn un o gydsylfaenwyr ymwahaniad Fienna. Ym 1903 aeth gyda Klimt i Ravenna, lle gwnaed argraff ar y ddau arlunydd gan yr arddull herodraidd a'r ffordd y câi aur ei ddefnyddio i addurno mewn gwaith mosaic Bysantaidd. Daw'r ffigwr aleogrïol hwn o'r Gwanwyn gyda pheunod o tua 1904. Ar y chwith mae pâr mewn gwisg gyfoes yn gwylio pedair duwies y môr yn dawnsio. Mae'r raddfa eang yn awgrymu i'r gwaith hwn gael ei fwriadu ar gyfer safle pensaern ol.
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw