Casgliadau Celf Arlein
Cweryl
LE NAIN, Mathieu (1607 - 1677)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 75.5 x 93.0 cm
Derbyniwyd: 1968; Dyrannwyd yn lle treth; Llywodraeth E.M.
Rhif Derbynoli: NMW A 27
Roedd gan y brodyr Mathieu, Antoine a Louis Le Nain weithdy ym Mharis. Arbenigai Mathieu mewn lluniau o olygfeydd mewnol ô milwyr. Mae rhyw deimlad o lonyddwch i'r rhan fwyaf o gyfansoddiadau Le Nain. Mae hwn yn anarferol am ei fod yn dangos cynnen gas dros gâm sy'n cael ei chwarae ar ben y drwm. Mae'r dyn ifanc ar y chwith yn tynnu dagr a'r milwr hy^n yn tynnu cleddyf wrth droi i wynebu ei wrthwynebydd. Nid yw eu cyfeillion eto wedi sylwi ar y cythrwfl. Daw'r llun o tua 1640. Caiff eu gwaith ei gymnharu â pheintiadau genre Iseldiraidd weithiau, er eu bod yn aml yn garedicach tuag at fywyd y werin, gyda llai o naws foesegol.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 3
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw