Casgliadau Celf Arlein
Y Bardd [The Bard]
JONES, Thomas (1742 - 1803)

Dyddiad: 1774
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 114.5 x 168.0 cm
Derbyniwyd: 1965; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 85
Saif y bardd olaf ar ymyl clogwyn â thelyn yn ei ddwylo. Mae’n melltithio’r goresgynwyr Seisnig cyn neidio i’w farwolaeth. Mae’r peintiad hanesyddol dramatig hwn wedi dod yn eiconig i Gymru. Mae’n seiliedig ar gerdd Thomas Gray The Bard, ac mae’n adrodd hanes y gyflafan chwedlonol pan laddodd Edward I y beirdd Cymreig.
Roedd beirdd yn uchel eu parch yng nghymdeithas Gymreig y cyfnod, ac ystyriwyd mai nhw oedd disgynyddion y derwyddon Celtaidd. Mae Jones yn gwneud y cysylltiad hwn trwy roi nodweddion derwyddol – barf hir wen a mantell gycyllog – i’w Fardd. Pwysleisia’r cylch cerrig sydd yn y cefndir, sy’n seiliedig ar Gôr y Cewri, hynafiaeth y derwydd.
Dyma un o beintiadau cynnar Jones yn y dull mawreddog, lle mae’n defnyddio’r dirwedd fel cefndir ar gyfer golygfa o hanes, llenyddiaeth neu fytholeg. Ystyriodd Jones fod y darlun yn ‘un o’r gorau a beintiais erioed’.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 4
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw