Casgliadau Celf Arlein
Gwahanu [Parting]
JOHN, Sir William Goscombe (1860 - 1952)
Dyddiad: 1889
Cyfrwng: plastr peintiedig
Maint: 76.2 cm
Derbyniwyd: 1891; Rhodd; Syr William Goscombe John
Rhif Derbynoli: NMW A 559
Gwahanu oedd llwyddiant mawr cyntaf Goscombe John, ac enillodd iddo Fedal Aur yr Academi Frenhinol ym 1889, a'i alluogi i deithio i Ewrop. Gosodwyd y testun gan bwyllgor yr Academi Frenhinol, a dehonglodd y cerflunydd ef drwy gyfrwng ffigwr hen w^r yn dal ei fab ifanc sydd wedi marw. Roedd y diddordeb mewn effeithiau arwyneb, gyda gwahanol gwerfwedd i'r gwallt a'r croen, yn nodweddiadol o arddull y Gerflunwaith Newydd. Mae'r grw^p ffigyrau yn dangos dylanwad y cerflun enwog o Ugolino a'i Feibion gan Jean Baptiste Carpeaux, a welwyd gyntaf yn Salon Paris ym 1863
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Rotwnda
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw