Casgliadau Celf Arlein
Mere Poussepin yn ei heistedd wrth Fwrdd
JOHN, Gwen (1876 - 1939)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 88.3 x 65.4 cm
Derbyniwyd: 1968; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 149
Ym 1913, y flwyddyn pan droes yr arlunydd at yr eglwys Babyddol, cafodd ei chomisiynu gan Siapter Meudon o Urdd Chwiorydd Elusen y Forwyn Fendigaid o Tours i beintio portread o'u sefydlydd, Mere Marie Poussepin (1653-1744). Seiliwyd y llun ar gerdyn gweddi o 1911 yn dwyn portread o Mere Poussepin o lun olew o'r ddeunawfed ganrif. Rhwng 1913 a 1920 bu Gwen John yn gweithio ar o leiaf chwe fersiwn o'r portread, a gosodwyd y brif enghraifft yn y lleiandy.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 15
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw