Casgliadau Celf Arlein
Cornel o Stafell yr Artist ym Mharis
JOHN, Gwen (1876 - 1939)

Dyddiad: 1907-9
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 31.2 x 24.8 cm
Derbyniwyd: 1995; Prynwyd; gyda chymorth Ymddiriedolaeth Derek Williams / Ystâd Mrs J. Green
Rhif Derbynoli: NMW A 3397
Bu Gwen John yn mynychu Ysgol Gelfyddyd Gain y Slade yn Llundain rhwng 1895 a 1898, a bu'n astudio am gyfnod byr ym Mharis. Ym 1903, aeth gyda Dorelia McNeill, a oedd yn fuan i ddod yn gariad ac yn ysbrydoliaeth i Augustus, ei brawd, ar daith gerdded trwy Ffrainc. Erbyn dechrau 1904, roedd wedi ymsefydlu ym Mharis, lle roedd yn ennill bywoliaeth yn modelu. Roedd yn byw ar lawr uchaf 87 rue du Cherche-Midi rhwng 1907 a 1909. Mae'r ystafell foel hon yn ymddangos dro ar ôl tro yn ei gwaith o'r cyfnod hwn. Mae'r gadair wag, y dillad a daflwyd o'r neilltu a'r llyfr agored yn awgrymu presenoldeb anweledig yr arlunydd, ac mae'r llun yn cyfleu llawer am ei bywyd, ymdeimlad o angerdd dan reolaeth, trefn, tawelwch a llonyddwch llwyr.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 15
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft


Gadael sylw