Dod yn Noddwr Amgueddfa Cymru
Mae Noddwyr yn ffynhonnell incwm hollbwysig sy'n rhoi cymorth gydag ystod eang o weithgareddau ar bob safle ac o fewn pob disgyblaeth, o nawdd cyfatebol er mwyn sicrhau grantiau loteri pwysig i gymorth gyda digwyddiadau ac arddangosfeydd. Mae'r ffynhonnell incwm hanfodol hon hefyd yn darparu'r math o gymorth ar frys a hyblyg y mae ei angen er mwyn caffael gwrthrychau newydd, yn ogystal â rhoi cymorth gyda'r gwaith hollbwysig o gadw ac arddangos ein casgliadau presennol sydd gyda'r gorau.
Yn gyfnewid am y cymorth hael hwn, bydd Noddwyr yn cael nifer o freintiau neilltuol
- y cyfle i fynychu ystod o ddigwyddiadau dethol
- cydnabyddiaeth ar Fur y Rhoddwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- gohebiaeth reolaidd yn rhoi gwybodaeth unigryw am y datblygiadau a'r newyddion diweddaraf
Digwyddiadau arbennig ar gyfer Noddwyr.
Mae gan Noddwyr gyfle i fwynhau nifer o ddigwyddiadau breintiedig, gan gynnwys:
- digwyddiadau dethol a lywyddir gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol. Caiff Noddwyr fynd ar daith y tu ôl i'r llenni a chwrdd â'r arbenigwyr
- ymweliadau preifat ynghyd â churaduron arddangosfeydd neu gasgliadau penodol
- gwahoddiadau personol i agoriadau swyddogol, ynghyd â chyfle i gwrdd ag aelodau o staff a thrafod eu gwaith diweddaraf.
Noddwr - £300 y flwyddyn
Cyd-noddwyr - £500 y flwyddyn
Noddwr am Oes - £3,000 ar un tro
Cyd-noddwyr am Oes - £5,000 ar un tro
I gael rhagor o wybodaeth neu i ymuno â'r cynllun, cysylltwch â'r Adran Ddatblygu ar (029) 20573182 neu ebostiwch Sian Russ.







