Cyfeillion Amgueddfa Cymru

[delwedd: Blodeugerdd Banks]

Blodeugerdd Banks, fframiwyd trwy gymorth y Cyfeillion

[delwedd: Rhoddodd y Cyfeillion grant i ddatblygu dau ddarn o offer rhyngweithiol newydd yn Oriel 1 arddangosfa newydd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.]

Rhoddodd y Cyfeillion grant i ddatblygu dau ddarn o offer rhyngweithiol newydd yn Oriel 1 arddangosfa newydd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

[delwedd: Rhoddodd y Cyfeillion grant i helpu i ddatblygu Canolfan addysg Pegasus yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.]

Rhoddodd y Cyfeillion grant i helpu i ddatblygu Canolfan addysg Pegasus yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

[delwedd: ]

Ddysgled hufen o set bwdin yr 'Hafod', porslen Derby, 1787

[delwedd: ]

13eg neu 14eg ganrif, modrwy aur gyda cherrig cobochan a ffeindiwyd ym Mhen-hw.

Mae amcanion y Cyfeillion yn cynnwys:

  • Sbarduno diddordeb y cyhoedd yn Amgueddfa Cymru
  • Trefnu gwibdeithiau i lefydd o ddiddordeb yn y DU a thramor yn ogystal â threfnu darlithoedd cyhoeddus ar destunau o ddiddordeb.
  • Codi arian ar gyfer projectau arbennig.

Fel aelod o'r Cyfeillion fe gewch chi:

  • Gopi o Adroddiad Blynyddol y Cyfeillion
  • Cylchgrawn 'Digwyddiadau'
  • Cylchlythyr y Cyfeillion tairgwaith y flwyddyn
  • 10% o ddisgownt yn siopau, bwytai a chaffis Amgueddfa Cymru
  • Disgownt ar bris mynediad i arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig

Os oes diddordeb gennych chi mewn ymuno â'r Cyfeillion, llenwch y ffurflen aelodaeth a'i yrru at:

Cyfeillion Amgueddfa Cymru
Ysgrifennydd Tanysgrifio
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NP

Lawrlwythwch y ffurflen aelodaeth:

Membership_Application.cy.pdf

Lawrlwythwch y daflen wybodaeth:

Friends-leaflet.pdf

Mae mynediad i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn rhad ac am ddim. Codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig.

Digwyddiadau sydd ar y gorwel:

Friend-Programme-for-2013.cy.pdf

Mae Cyfeillion Amgueddfa Cymru yn aelod cyswllt o Gymdeithas Cyfeillion Amgueddfeydd Prydain (BAFM)

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.