Cyfeillion Amgueddfa Cymru
Mae amcanion y Cyfeillion yn cynnwys:
Hybu diddordeb yn holl safleoedd Amgueddfa Cymru.
Gwireddir yr amcanion uchod drwy:
- drefnu ymweliadau o wahanol hydoedd i lefydd o ddiddordeb yn y DU a thramor.
- raglen fisol o ddarlithiau cyhoeddus ar bynciau celf, hanes a gwyddoniaeth.
- weithgareddau eraill megis cyngherddau ac ymweliadau ‘tu ôl i’r llenni’ yn yr Amgueddfa.
Mae aelodaeth o’r Cyfeillion yn rhoi cyfle i:
- fod yn rhan o weithgareddau’r Cyfeillion yn gyffredinol, ac yn cynnwys tâl gostyngol ar gyfer darlithiau cyhoeddus.
- dderbyn Cylchgrawn arobryn y Cyfeillion dair gwaith y flwyddyn.
- dderbyn gostyngiad o 10% yn siopau a mannau bwyta pob safle Amgueddfa Cymru.
- gymdeithasu gyda phobl sy’n rhannu’r un diddordebau â chi.
Os oes diddordeb gennych chi mewn ymuno â'r Cyfeillion, llenwch y ffurflen aelodaeth a'i yrru at:
Cyfeillion Amgueddfa Cymru
Ysgrifennydd Tanysgrifio
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NP
Lawrlwythwch y ffurflen aelodaeth:
Lawrlwythwch y daflen wybodaeth:
Mae mynediad i holl safleoedd Amgueddfa Cymru yn rhad ac am ddim. Codir tâl ar gyfer rhai arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig.
Digwyddiadau sydd ar y gorwel:
Mae Cyfeillion Amgueddfa Cymru yn aelod cyswllt o Gymdeithas Cyfeillion Amgueddfeydd Prydain (BAFM)






