Cefnogi Amgueddfa Cymru
Mae sawl ffordd o wneud rhodd, ac mae llawer o bobl yn dewis bod yn Gyfeillion, yn Noddwyr, neu i'n cofio ni yn eu Hewyllys. Rydyn ni'n cydweithio'n agos â nifer o fusnesau, mawr a bach, sy'n elwa ar gysylltiadau â sefydliad cenedlaethol pwysig.
Rydyn ni'n ddigon ffodus i fwynhau cefnogaeth nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol. Porwch y rhan yma o'r wefan o weld sut gallwch chi sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael mwynhau'r trysorau sydd yn ein gofal.
Eich Rhodd
Mae pob rhodd gan y cyhoedd yn cyfrannu at un o'n projectau hanfodol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r tudalennau 07. Cewch wneud rhodd trwy un o'r dulliau canlynol:
- Yn un o'r blychau casglu yn ein Hamgueddfeydd
- Ar-lein, trwy y cysylltiad uwch. Bydd y cysylltiad yma'n mynd â chi i wefan ddiogel dan adain y Sefydliad Cymorth i Elusennau, lle cewch chi gyflwyno rhodd i Amgueddfa Cymru.
- Trwy'r post. Argraffwch gopi o'r ffurflen roddion yma a'i hanfon i'r Amgueddfa.
- Ydych chi'n teimlo'n gryf am un rhan arbennig o'n casgliadau? Cysylltwch â'r Adran Ddatblygu i gael rhagor o wybodaeth os ydych chi am sicrhau bod eich rhodd yn cyfrannu at broject penodol.
Neu os hoffai eich cwmni chi fwynhau mnanteision cefnogi'r Amgueddfa,
Ein Rhif Elusen Cofrestredig: 525774
[delwedd: ]