Llogi

Lleolir Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, prif adeilad Amgueddfa Cymru, yng nghalon canolfan ddinesig gwefreiddiol Caerdydd.

Cynlluniwyd yr adeilad, gyda'i ffasad neo-glasurol trawiadol, yn 1909 ac fe'i agorwyd i'r cyhoedd yn 1927. Heddiw, mae'n dal safle unigryw ymysg amgueddfeydd Prydeinig o ran ei ystod amrywiol ac ardderchog o arddangosfeydd celfyddyd a gwyddoniaeth.

Ochr yn ochr â'r arddangosfeydd parhaol, mae arddangosfeydd dros dro yn ychwanegu at y mwynhad i'r dros chwarter miliwn o bobl sy'n ymweld â Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn flynyddol.

Mae'n cynnig lleoliad unigryw ac urddasol ar gyfer casgliadau corfforaethol, cynadleddau, ciniawau gala, lletygarwch ac adloniant o bob math. Gall ein Swyddog Digwyddiadau Corfforaethol a'n tîm arlwyo eich cynorthwyo i gynllunio a threfnu eich digwyddiad o'r ymholiad cyntaf i'r diwrnod ei hun, sy'n eich galluogi i ymlacio gan wybod y bydd eich digwyddiad yn cael ei reoli gyda steil a manylder.

Adnoddau yn cynnwys:

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Ffôn: (029) 2057 3387
Ffacs: (029) 2057 3321
Ebostiwch Llogi (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd)

Cliciwch yma am becyn bwydlenni arlwywyr y safle.

Collage
Llogi Cyfleusterau
Llogi Cyfleusterau PDF
Bwydlenni’r arlwywyr
Bwydlenni’r arlwywyr

digwyddiadau

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales