Golwg fanylach ar ein Casgliadau Cenedlaethol
Am ymweliad ychydig yn wahanol, mae ein Canolfan Gasgliadau yn Nantgarw yn cynnwys miloedd o eitemau amgueddfa diddorol nad ydynt yn cael eu harddangos.
Rydyn ni’n cynnig mynediad cyfyngedig i grwpiau er nad yw’r ganolfan yn agored i’r cyhoedd gyffredinol.
Dewiswch o amrywiaeth o deithiau am ddim:
Cadwraeth
Mae ein tîm bychan o gadwraethwyr a pheiriannwyr yn cynnal ac yn adfer casgliadau diwydiant Amgueddfa Cymru, o hen ffotograffau brau i beiriannau 22 tunnell. Cewch ddysgu mwy am y gwaith yn ystod sgwrs ag arbenigwr.
Storio a Rheoli Casgliadau
Sgwrs yn y storfa gwrthrychau diwydiannol mawr yn esbonio sut y byddwn ni’n storio, cofnodi a chadw golwg ar y casgliadau diwydiant, all gynnwys unrhyw beth o faint fricsen i injan.
Casgliadau Trafnidiaeth
Cyfle i weld ein casgliad o feiciau, beiciau modur, ceir a bysiau a hyd yn oed hofrennydd achub môr yn ystod sgwrs gan aelod o’r staff rheoli casgliadau.
Injanau Nwy ac Injanau Sefydlog Mawr
Sgwrs am yr injanau mwy a gedwir yn y ganolfan yn codi’r llen ar y sialens gadwraeth o lanhau ac ailadeiladu’r darnau yn injan gyflawn.
Gwybodaeth i Ymwelwyr:
Am ragor o wybodaeth ac i archebu ymlaen llaw ffoniwch (029) 2057 3560 neu ebostiwch ni.
Gellir archebu teithiau ar gyfer hyd at ugain person rhwng:
11am-12.30pm a 2-3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ag eithrio gwyliau’r banc).
Cyfleusterau
Toiled anabl
Mynediad gwastad
Parcio am ddim
Ble ydyn ni?
Rydyn ni yn Nantgarw. Gadewch yr M4 yng nghyffordd 32 a throi tua’r gogledd ar yr A470 a dilyn yr arwyddion am yr A468 wedi 4 milltir.
Adnoddau Ar-lein:
Delweddau Diwydiant - archwiliwch ein holl baentiadau, darluniau, dyfrlliwiau, printiau, cerfluniau a chelf gymwysedig o fyd diwydiant, masnach forol a thrafnidiaeth yng Nghymru.
Rhagor - ein rhith-amgueddfa sydd yn adrodd y straeon y tu ôl i'r casgliadau gyda detholiad o erthyglau difyr, orielau o ddelweddau, fideos, adrannau rhyngweithiol a llawer mwy.







