Ymweld - National Roman Legion Museum
Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn arddangos casgliad hynod o ddarganfyddiadau o Gaerllion Rufeinig, canolfan yr ail Leng Awgwstaidd.
Ar agor
10am–5pm Dydd Llun–Dydd Sadwrn.
2pm–5pm ar Ddydd Sul.
Rhaid i blant dan 11 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
MYNEDIAD AM DDIM
Lleoliad
Canol y Dref, Caerllion, Gwent. Dilynwch yr arwydddion brown â'r helmed o'r M4 (cyffordd 25 tua'r gorllewin, cyffordd 26 tua'r dwyrain).
Os ydych yn defnyddio teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post NP18 1AE (cofnodwyd fel 'High Street').
Cyfeiriad
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Stryd Fawr, Caerllion, Casnewydd
NP18 1AE
Ffôn: (029) 2057 3550
Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333
Ffacs: (029) 2057 3551
Grwpiau
Gall grwpiau sy’n archebu ymlaen llaw fanteisio ar:
- Fynediad am ddim
- Taith dywys am ddim, os ar gael
- Teithiau tu ôl i’r llenni ar gais, os ar gael
- Gostyngiad o 10% yn y siop yr Amgueddfa os ydych yn gwario mwy na £5 y pen
Gwelwch ein Llyfryn Ymweliadau Grŵp ynglyn a saith amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.
Sylwer: ni all grwpiau addysgiadol hawlio gostyngiad yn y bwytai a’r siopau. Ein polisi yw bod yn rhaid i unrhyw blentyn o dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Atyniadau yng Nghaerllion
Parcio
Gallwch barcio naill ai ar Broadway (ger yr amffitheatr), Stryd yr Amgueddfa (nifer gyfyngedig o lefydd parcio) neu oddi ar y Stryd Fawr ger y Baddonau. Mae cyfleusterau parcio beiciau ar gael yn yr amffitheatr.
Bysiau
Gall bysiau barcio ger yr Amffitheatr Rufeinig.
Cyfleusterau i'r anabl
Mynediad i gadeiriau olwyn. Toiledau i'r anabl. Digonedd o le eistedd.
Cyfleusterau
Siop yr Amgueddfa gyda llyfrau Rhufeinig arbenigol, anrhegion thematig a theganau arian poced.








