Canllawiau Mynediad - National Roman Legion Museum
Cyngor i ymwelwyr anabl
Audio Version
Gwrando ar fersiwn sain (1.2mb, MP3)
Pobl sy'n methu cerdded yn dda.
- Ceir mannau parcio 50 llath o ffrynt yr amgueddfa i lawr y stryd gerllaw. Nid yw'r rhain wedi'u cadw ar gyfer pobl sydd â bathodynnau oren.
- Mae ffordd i bobl mewn cadeiriau olwyn neu rai â choetsis babanod/plant bach ddod i mewn i'r amgueddfa i'r dde o'r grisiau yn y tu blaen. Ceir mynedfa wastad i'r amguedddfa, trwy ddrysau gwydr.
- Gellir mynd i'r Oriel a lefel isaf yr Oriel mewn cadair olwyn gan ddefnyddio ramp.
- Mae cadair olwyn ar gael i'w defnyddio os gofynnwch amdani. Er na ellir trefnu ymlaen llaw i ddefnyddio'r gadair hon ac mai'r cyntaf i'r felin gaiff falu, byddwn yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Docynnau os cawn gais ymlaen llaw.
- Ceir seddau yma a thraw yn yr Oriel.
Pobl sydd â Nam ar y Golwg
- Mae casgliad o bethau i afael ynddynt ar gael os gofynnwch.
- Mae llawlyfrau print mawr ar gael i'w benthyg am ddim. Gofynnwch wrth y fynedfa.
Pobl sy'n Drwm eu Clyw
- Mae defnyddiau ysgrifenedig o safon uchel ar gael yn yr Oriel i gyd—fynd â'r casgliadau.
Anawsterau Dysgu
- Mae'r Arweinlyfr newydd a'r cynllun o'r amgueddfa yn cynnwys llawer o luniau ac maent yn cyflwyno ein casgliadau a'n cyfleusterau mewn ffordd eithaf syml.
Cyfleusterau
- Ceir toiled ar gyfer merched a dynion yn yr Oriel.
- Nid oes caffi yn yr Oriel ond ceir nifer o fannau bwyta yng nghanol tref Caerllion.
Cŵn
- Cŵn cymorth yn unig a ganiateir ar y safle.
- Gallwch ofyn am ddŵr ar gyfer eich ci wrth y dderbynfa.
- Rhaid iddyn nhw fynd oddi ar y safle i wneud eu busnes ond bydd staff yr amgueddfa ar gael i helpu ar gais.
Canolfan Capricorn, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Pobl sy'n methu cerdded yn dda
- Nid yw'n bosib mynd i bob man yng Nghanolfan Capricorn mewn cadair olwyn. Mae pedwar gris yn arwain i'r Ystafell Farics neu gellir mynd yno trwy ddrws ochr. Bydd aelod o'r staff yn trefnu i chi ddefnyddio'r drws hwn os gofynnwch iddynt.
- Llawr gwastad sy'n arwain i'r adeilad cyswllt.
Pobl sydd â Nam ar y Golwg
- Mae pethau i'w cyffwrdd ac i afael ynddynt yn yr Ystafell Farics.
- Mae casgliad o bethau i'w teimlo ar gael yn yr Ystafell Farics a'r Oriel. Gofynnwch amdanynt os dymunwch.
- Bydd hwylusydd yn yr Ystafell Farics pan fydd ymwelwyr yno.
Anawsterau Dysgu
- Mae hwyluswyr wrth law yn yr Ystafell Farics i helpu pobl i gymryd rhan yn y gweithgareddau.
Cyfleusterau
- Ceir toiled i bobl anabl a thoiledau merched a dynion ar lawr gwastad yng
Nghanolfan Capricorn.
Am resymau hanesyddol, nid yw ymwelwyr sydd ag anghenion arbennig yn gallu mynd i bob rhan o bob un o'n hamgueddfeydd. Rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella'r sefyllfa lle bo modd. Os oes gennych ryw awgrymiadau a allai ein helpu i wneud hyn, rhowch wybod i aelod o'r staff neu ysgrifennwch at: —
Elizabeth Power, Swyddog Mynediad ac Amrywiaeth, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NP








