Ymweld - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae hanes Cymru o'r dyddiau cynnar yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r Amgueddfa'n unigryw ymysg amgueddfeydd ac orielau ym Mhrydain am ei hamrywiaeth o arddangosiadau celf a gwyddoniaeth.
Ar agor
10.00am - 5.00pm Dydd Mawrth-Dydd Sul.
Orielau yn cau am 4:45pm.
Ar agor ar y mwyafrif o ddyddiau Llun Gŵyl y Banc.
Rhaid i blant dan 11 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
MYNEDIAD AM DDIM
Lleoliad
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays, Caerdydd
CF10 3NP
Ffôn: (029) 2057 3000
Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333
Ffacs: (029) 2057 3321
Dyddiau Gŵyl y Banc
Ar agor: 29 Mawrth, 1 Ebrill, 6 a 27 Mai a 26 Awst 2013.
Ar gau: 24, 25 a 26 Rhagfyr 2013 and 1 Ionawr 2014.
» Lleoliad ar Multimap.co.uk
» Lleoliad ar Streetmap.co.uk
Cerdded/beiciau
Mae'r Amgueddfa yn 20 munud ar droed o orsafoedd bws a thrên Caerdydd Canolog. Mae map o lwybrau cerdded/beic ar gael o Sustrans.
Ar y trên neu bws
O orsaf fysiau Caerdydd Canolog, ewch ar fws rhif 53 neu 85 i'r Amgueddfa. O Fae Caerdydd ewch ar y fws Bay Car rhif 6.
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0871 200 22 33 (codir tâl o 10c y funud o ffon cartref).
Ar y ffordd
Cyffordd 32 o'r M4. Os ydych yn defnyddio teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post CF10 3NP.
Bysiau
Gellir gollwng grwpiau o flaen y Brif Fynedfa.
Cyfleusterau i'r anabl
Mynediad i gadeiriau olwyn drwy'r safle cyfan, gan gynnwys lifftiau. Mae pedair cadair olwyn ar gael i’w benthyg ynghyd â stolion ar ffyn. Mae defnydd helaeth o fideo a sain mewn arddangosfeydd (sylwebaeth ac effeithiau sain). Mae teithiau BSL ar gael i grwpiau sydd wedi bwcio ymlaen llaw – ffoniwch (029) 20573325. Sesiynau trin a thrafod ar gael ar gais.
Parcio
Mae Maes Parcio i Ymwelwyr, gan gynnwys lleoedd parcio arbennig i bobl anabl, y tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Prynwch tocyn gadael o Siop yr Amgueddfa - £5. Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Ewch â’ch bathodyn i’r siop i gael tocyn parcio.. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Cyfleusterau
Siop, bwyty, maes parcio, cyfleusterau newid cewynnau ac ystafell Lleoedd Newid.