Rydych chi yn: Hafan > Llogi Cyfleusterau > Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
English

Llogi Cyfleusterau a Derbyniadau Priodas

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn falch o fod yn un o Amgueddfeydd gorau Ewrop. Wedi'i lleoli yng nghanol un o ganolfannau dinesig mwyaf trawiadol y byd, rydym yn siŵr y bydd ein casgliadau celf, hanes natur, daeareg ac archaeoleg gwefreiddiol yn creu argraff arnoch chi a'ch gwahoddedigion.

Mae'r Amgueddfa'n cynnig lleoliad unigryw heb ei ail ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a phreifat mawr a bach o dderbyniadau diodydd, ciniawau gala a gwleddoedd priodas i gynadleddau, seminarau a chyfarfodydd. Cliciwch ar y dolenni isod am ragor o wybodaeth.

Darperir arlwy yn fewnol gan yr arlwywr sector celfyddydau a threftadaeth arbenigol, Elior. Mae'r tîm profiadol hwn yn darparu bwydlenni sy'n ysbrydoli a gwasanaeth di-ail. Caiff y bwyd ei baratoi ar y safle gan ddefnyddio cynhwysion lleol ffres ar bob cyfle posibl.

Mae'n bleser gennym gynnig gostyngiad ar gyfradd llogi yn ystod y dydd i elusennau cofrestredig, cyrff addysg ffurfiol, grwpiau cymunedol a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gellir llogi Cyfleusterau ychwanegol yn cynnwys: System PA, llwyfan a golau, gliniaduron, taflunwyr data, teledu a chwaraewr DVD a Wi-Fi (mynediad i Wi-Fi at ddefnydd academaidd yn unig)

Am wybodaeth bellach lawrlwythwch ein llyfryn a'n bwydlenni PDF o'r dudalen hon neu gwnewch apwyntiad i ymweld â'r lleoliad gyda aelod o'n tîm Llogi Cyfleusterau.

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Bwylenni

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP

Ffôn: (029) 2057 3387/3129
Ffacs: (029) 2057 3321

Ebost: Llogi Cyfleusterau (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd)