Addysg
Awst 2012
Lluniau Llon! Sesiynau Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt @AGC
Dros y pythefnos diwethaf rydym ni wedi bod yn rhedeg gweithgareddau ar gyfer teuluoedd i'w wneud ag arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Wnaeth dros 400 ohonoch chi gymryd rhan ac mai hi wedi bod yn bythefnos bendigedig o anturiaethau ffotograffig! Rydw i wedi bod yn brysur yn llwytho siwd gymaint o'r lluniau ag sy'n bosib i dudalen Flickr Clwb Ffoto AGC ac mae rhaid i mi ddweud eu bod nhw'n edrych yn wych! Mae'r lluniau ar y dudalen Flickr wedi eu trefnu i mewn i setiau ar ochr dde'r dudalen felly os wnaethoch chi gymryd rhan y cwbl sydd angen i chi wneud yw clicio ar ddyddiad eich ymweliad i'r Amgueddfa a chwilio am eich enw!
Mi fydd y lluniau yn cael eu harddangos ar y sgrin yng Nghanolfan Ddarganfod Clore yn yr Amgueddfa ar ddydd Sadwrn Medi'r 8fed felly os wnaethoch chi gymryd rhan yn y gweithdai dewch i weld eich lluniau yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol!
Hoffwn ddiolch i Cat, Lauren a Catherine am wneud job mor dda o redeg y gweithgareddau a hoffwn ddiolch hefyd i bawb wnaeth cymryd rhan. Diolch!
Sialens Amgueddfa
Treuliodd deg o bobl ifanc bedwar diwrnod yn ystod gwyliau’r haf yn ein helpu i wneud arddangosiadau’r morfil a’r môr-grwban yn fwy deniadol i deuluoedd.
Dyma nhw’n cofrestru ar gyfer y sialens drwy ?yl Ddysgu’r Haf Caerdydd, sy’n gwahodd plant 12-15 oed i ddysgu sgiliau newydd yn eu hamser sbâr. Dyma nhw’n dysgu sut i werthuso arddangosfa, dewis stori dda, ysgrifennu testun diddorol a dewis gwrthrychau er mwyn creu arddangosfa deniadol i deuluoedd.
Mewn pedwar diwrnod byr, dyma nhw’n creu arddangosiadau newydd a phosau i deuluoedd eu mwynhau. Mae ei gwaith yn cael ei ddangos drwy gydol gwyliau’r haf ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn. Dewch i weld eu gwaith dros eich hunain yn oriel y morfil yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Diolch o galon i:
Jasmine Coombes, Emily Frankish, Aled Gomer, Thomas Griffiths, Samantha Hardy, Stephen Lloyd, Simon Naylor, Maxwell Piper, Anna Rees, Mollie Shand.
categorïau
Addysg
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr







