Eglwys Sant Teilo
Awst 2011
Brwydr Sain Ffagan
Fe ymunodd y Cymdeithas Rhyfel Cartref Lloegr â ni y penwythnos diwethaf, i archwilio hanes Brwydr Sain Ffagan, ble yr ymladdod milwyr Cromwell a'r Brenin ym 1649. Fe ddaethon nhw â llond y lle o arfau, yn ôl y disgwyl - yn ogystal â nifer helaeth o sgiliau a gwrthrychau i'w harddangos. Byddai rhestr yn rhy ddiflas, felly dyma luniau o rai ohonyn nhw wrth eu gwaith! Diolch i Alcwyn am dynnu'r lluniau.
[delwedd: Aelod o ECWS wrthi'n nyddu]
Paratoi ar gyfer diwrnod o nyddu wrth ffermdy Cilewent
[delwedd: Gwersyll Seneddwyr]
Gosod gwersyll y Seneddwyr ger ffermdy Abernodwydd
[delwedd: Y frwydr ar gychwyn yn Sain Ffagan]
Taniwch!
[delwedd: teulu, ail-greu, gwisg, sain ffagan]
Teulu o ail-grewyr. Roedd aelodau iau y grŵp yn hwyl i weithio hefo nhw!
[delwedd: Milwyr Rhyfel Cartref]
Dynion a merched âd'u gwaywffyn, yn aros i fynd ar flaen y gâd
[delwedd: Uchelwr oes y Rhyfel Cartref]
Uchelwr yng Nghastell Sain Ffagan, mewn gwisg o'r 1640au
categorïau
Eglwys Sant Teilo
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr