Addysg
Mehefin 2011
Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2011
[delwedd: ]
1af - Jakery Jones
[delwedd: ]
2il Thomas Longden
[delwedd: ]
3ydd Isabella Leyshon
[delwedd: ]
Chydnabyddiaeth uchel: Lucy Saxon
Gofynnwyd i'r disgyblion dynnu llun cennyn pedr a'u labelu. Cawson ni lwyth o luniau gwych!
Rhoddodd Athro'r Ardd wobrau Bishops Childs CIW School a Ysgol Nant Y Coed am gyflwyno'r darluniau gorau.
Cert Celf - Arian
Neges gyflym i ddangos rhai lluniau o beth fuon ni’n creu yn y Cert Celf dros hanner tymor. Mae’r gweithgareddau yn rhedeg tan ddydd Sul, felly mae digon o amser i chi ymweld a chymryd rhan o hyd. Mae rhai gwisgoedd ffansi Tuduraidd gyda fi hefyd y gall y plant eu gwisgo, a chefndir wedi’i beintio er mwyn tynnu llun o’i flaen.
Ceiniogau yw’r thema am fod arddangosfa anhygoel o geiniogau yn yr oriel ar hyn o bryd fel rhan o arddangosfa Creu Hanes. ‘Celc Tregwynt’ yw’r enw ar y ceiniogau ac fe gawson nhw eu claddu tua 1647 a’u darganfod o’r diwedd ym 1996!
Rydyn ni wedi bod yn lliwio ac addurno ceiniogau Tuduraidd yn y cert celf ac wedi bod yn defnyddio cortyn a ffoil i wneud arian 3D.
Dwi’n credu eu bod nhw’n edrych yn rhagorol.
categorïau
Addysg
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr