Addysg
Mawrth 2011
Ar 2 Ebrill byddwn yn lansio prosiect Archwilio Natur. Bydd digonedd o weithgareddau ar gael, felly cofiwch ymweld â’r blog a twitter am fwy o wybodaeth.
Fel rhan o’r lansiad byddaf i’n cynnal sesiwn celf a chrefft yn ymwneud ag adar. Os ydych â diddordeb mewn gwinïo, bydd cyfle i wneud bathodynnau neu bypedau bys, ac i’r plantos bach thaumatropes sy’n troi.
Rhag ofn nad ydych yn gwybod beth yw thaumatropes (doedd dim syniad gen i!), cylchoedd papur ydynt sydd, fel arfer, â llun aderyn ar un ochr a chaets yr ochr arall. Pan ydych yn eu troi mae’n ymddangos fel bod yr aderyn yn y caets. Gan ein bod yn dathlu natur, yn hytrach na chyfyngu yr adar i gaets, fe fyddwn ni’n eu dangos yn hedfan.
Croeso i'r Cennin Pedr
Hwre! Mae’r Cennin Pedr wedi cyrraedd! Adroddiadau o Ysgol Y Ffridd, Ysgol Nant Y Coed ac Ysgol Cynfran. Mae fy mylbiau i hefyd wedi agor ac maen nhw mor brydferth ag erioed.
Edrychwch ar y siartiau a’r mapiau
Dwi wedi tynnu rhai lluniau. Anfonwch eich lluniau a cofiwch gymryd rhan yn y gystadleuaeth tynnu llun blodau. Os yw hi’n heulog am hanner awr, beth am fynd i dynnu lluniau’r blodau yn yr ardd?
Darllenwch sylwadau o’r ysgolion isod.
Diolch yn fawr
Athro’r Ardd
Love spoons art cart
These images are from half term. We had a bit of a love theme and were looking at lovespoons, pockets and stay busks. We looked at all the kinds of patterns you find on lovespoons, from the usual hearts and commas, to horses and forks!
Lots of people took their work home, but quite a few added decorations to our large lovespoons that are pictured here. I have to admit that Tracey Williams did a lot of work on the spoons and made them much more beautiful than when they started out.
The next art activity i'm involved in will be part of the launch of our new Explore Nature project in Oriel 1
Clwb Cwiltio
Dyma luniau o'r clwb cwiltio ddydd sadwrn diwethaf. Rydyn wedi cwrdd tair gwaith nawr ac mae hi'n sesiwn hyfryd a chyfeillgar.
Mae e'n neis i gwrdd â gwahanol bobl, a mae yna gymysgedd da o bobl sydd newydd ddechrau cwiltio a rhai sydd efo ychydig fwy o brofiad. Ar hyn o bryd mae yna le i fwy o bobl i ymuno, felly anfonwch ebost neu ffoniwch i fwcio, mae'r sesiwn nesa ar 7 Mai. Tan hynny, mae'r lluniau hyn o'r sesiwn ddiwethaf yn dangos y gwaith hyd yma, os ydych wedi bod yn dod i'r clwb, plis ebsotiwch luniau ata i!
Mae'r crocysau wedi cyrraedd!
Bron fel hud a lledrith mae crocysau wedi blodeuo hyd a lled Cymru!
Agorodd llawer ohonyn nhw yn ystod gwyliau’r hanner tymor, felly fe ddylen ni dderbyn llawer mwy o gofnodion gan ysgolion gan fod y disgyblion yn ôl yn yr ysgol nawr.
Yn anarferol eleni, rydyn ni wedi derbyn cofnodion o grocws yn agor yn y canolbarth cyn cofnodion o’r gorllewin. Dyma newyddion da i Ysgol Glantwymyn sydd fel arfer yn gorfod aros hiraf am eu blodau.
Darllenwch fy llythyr i weld sut i ennill trip ac i ennill eich tystysgrifau gwyddonwyr gwych.
Does dim cofnodion o gennin Pedr wedi fy nghyrraedd i eto, ond dwi’n si?r y clywn ni am adroddiadau cyn hir.
Mae fy nghennin Pedr i wedi dechrau troi eu pennau sy’n arwydd eu bod yn paratoi i flodeuo. Mae’r coed yn fy ngardd wedi dechrau blodeuo ac mae’r dail yn dechrau tyfu – cyn bo hir bydd fy ngardd i’n llawn lliw. Dwi methu aros! Mae llawer o arwyddion bod y gwanwyn wedi cyrraedd Sain Ffagan hefyd.
Cofiwch ddweud wrtha i sut mae’ch blodau chi?
Athro’r Ardd







